Eir ati yn y ddoethuriaeth hon i gyflwyno ffuglen wyddonol drwy gyfrwng y Gymraeg fel
pwnc i’w astudio’n academaidd. Dadansoddir datblygiad y genre yn y Gymraeg, gan
edrych ar y datblygiad hwnnw yng nghyd-destun llenyddiaeth Gymraeg ac yng nghyddestun llenyddiaeth ffuglen wyddonol yn fyd-eang. Yn y bennod gyntaf, cwestiynir pam nad oes yna drafodaethau academaidd yn trafod ffuglen wyddonol yn y Gymraeg eisoes ac ymdrechir i ddiffinio’r genre gan edrych ar waith beirniaid llenyddol sy’n arbenigo yn y maes. Yn y tair pennod ganlynol, archwilir delweddau a themâu ffuglen wyddonol drwy gyfrwng y Gymraeg dan chwyddwydr y damcaniaethau llenyddol canlynol: strwythurol, ôl-strwythurol, ôl-drefedigaethol a ffeminyddol.
Yr hyn a ddaw i’r amlwg yw’r cysyniad o Aralledd (Otherness) sy’n clymu’r gweithiau oll
ynghyd. Trafodir yr Arall o sawl persbectif gwahanol, gan sylwi ar genre ffuglen wyddonol
fel Arall yn y cyd-destun llenyddol Cymraeg. Ynghyd â hynny, sylwn fod ffuglen wyddonol
fel genre yn cynnig cyfle i lenorion o gefndiroedd ac o gyfnodau amrywiol (gyda’r cynharaf
o’r gweithiau a ddarganfyddwyd yn dyddio o 1856) i draethu am eu presennol a chynnig
mewnwelediad o safbwynt dieithr. Cyflwynir ffuglen wyddonol felly fel genre sy’n cynnig
gofod newydd a chyfle arbennig i awduron sy’n llenydda ‘o’r ymylon’.